2019 Rhif (Cy. )

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae’r Gorchymyn hwn yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.

Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol oddi wrth y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar http://senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=14828.

 

 


 

2019 Rhif (Cy. )

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) 2019

Gwnaed                                5 Mehefin 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       6 Mehefin 2019

Yn dod i rym                        30 Mehefin 2019

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru([1]) drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004([2]).

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o ardal y Cyngor hwnnw.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Gwent yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) 2019 a daw i rym ar 30 Mehefin 2019.

Dynodi ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac ardal gorfodi arbennig

2. Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn—

(a)     ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a

(b)     ardal gorfodi arbennig.

 

 

Ken Skates

 

Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

 

5 Mehefin 2019

 

                  YR ATODLEN        Erthygl 2

Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig

Ardal Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (“y Fwrdeistref Sirol”) ac eithrio—

(a)     y darn o Gefnffordd yr A465 o fewn y Fwrdeistref Sirol, o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at y ffin â Sir Fynwy, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael.

 



([1])           Yn rhinwedd adran 92 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, at ddibenion Rhan 6 o’r Ddeddf honno. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([2])           2004 p. 18.